Announcement

Collapse
No announcement yet.

Cyngerdd I Gefnogi Armenia - Concert To Support Armenia

Collapse
X
 
  • Filter
  • Time
  • Show
Clear All
new posts

  • Cyngerdd I Gefnogi Armenia - Concert To Support Armenia

    CYNGERDD I GEFNOGI ARMENIA - CONCERT TO SUPPORT ARMENIA
    TUDUR H JONES

    Daily Post (Liverpool)
    March 21, 2012 Wednesday
    North Wales Edition

    WNES i erioed ddychmygu y byddwn yn sgwennu'r geiriau Llysgennad
    Armenia, Nant Peris a'r ddeuawd canu gwlad Iona ac Andy yn yr un
    frawddeg. Ond mae 'na achos difrifol yn cysylltu'r tri.

    Fe fydd Llysgennad Armenia ac Esgob yr Armeniaid ym Mhrydain yn
    mynychu cyngerdd arbennig yng Nghapel Rehoboth, Nant Peris ddiwedd
    y mis, lle bydd Iona ac Andy'n cymryd rhan.

    Bwriad y cyngerdd yw coffau hil-laddiad yr Armeniaid dan law'r
    Ymerodraeth Ottoman ym mlynyddoedd cynnar yr Ugeinfed Ganrif.

    Mae Twrci'n dal i wadu mai hil-laddiad oedd yr hyn a ddigwyddodd. Ond
    mae mwy a mwy o wledydd y byd bellach yn cydnabod hynny.

    Dechreuodd y lladd ar Ebrill 24 1915, pan arestiwyd 250 o Armeniaid
    ym mhrifddinas Twrci, Constantinople (Istanbul heddiw).

    Yna gorfododd milwyr Twrci bobl o dras Armenaidd i adael eu cartrefi,
    a'u cymhell i gerdded gannoedd o filltiroedd i'r anialwch (yng ngogledd
    Syria heddiw), gan eu hamddifadu o fwyd a diod gyda'r bwriad o'u lladd.

    Rhwng hyn ac ymgyrchoedd gwaedlyd tebyg yn eu herbyn, credir fod
    rhwng 1m a 1.5m wedi marw. Cafodd nifer o Asyriaid a Groegwyr eu
    herlid hefyd, a chred rhai fod hwn yn rhan o'r un polisi.

    Mae nifer o wledydd y byd yn parhau i osgoi ei alw'n hil-laddiad,
    rhag pechu Twrci - un o wledydd Nato.

    Ond yr wythnos hon mae mwyafrif o aelodau Cynulliad Cenedlaethol
    Cymru wedi arwyddo deiseb yn cefnogi dynodi Ebrill 24 yn Ddydd Coffa
    Hil-laddiad yr Armeniaid.

    Cynhelir y cyngerdd yng Nghapel Rehoboth, Nant Peris, sydd dan
    fygythiad o orfod cau ei ddrysau.

    Bydd Llysgennad Armenia yn diolch am y gefnogaeth ac yn sôn am
    drafferthion y wlad heddiw, yn enwedig oherwydd fod y ffin gyda Thwrci
    wedi ei chau ers 20 mlynedd.

    Bydd y noson yn cynnwys gwasanaeth o emynau Armenaidd, a pherfformiad
    gan Iona ac Andy.

    Capel Rehoboth, Nant Peris, 7pm, nos Wener, Mawrth 30ain. Am ddim.

Working...
X